Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 28 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.30 - 16.25 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Joyce Watson AC (yn lle Julie James AC) Eluned Parrott AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Kay Jenkins, Comisiwn Etholiadol Stephen Brooks, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 CLA393 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2014
2.2 CLA394 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014
2.3 CLA395 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014
Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon â hwy.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014
Nododd y Pwyllgor y Gorchymyn.
3.2 Gohebiaeth yn ymwneud â CLA362 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2013
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
3.3 Gohebiaeth yn ymwneud â Bil Drafft Cymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
3.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Nododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd y dylai'r Clerc ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i ymchwiliad y Pwyllgor i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3.5 CLA389 - Rheoliadau Addysg (benthyciadau myfyrwyr) (ad-dalu) (Diwygio) 2014
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
3.6 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Dadreoleiddio : Gwelliannau ynghylch Deddf Daliadau Amaethyddol 1986, Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999
Nododd y Pwyllgor y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol a'r amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor y gallai fod angen ymestyn y dyddiad cau i gyflwyno adroddiad oherwydd y ddau Wŷl Banc ym mis Mai.
3.7 Gohebiaeth gan Dŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ac adroddiad Tŷ'r Arglwyddi ar rôl Seneddau Cenedlaethol yn yr Undeb Ewropeaidd.
4 Tystiolaeth yn ymwneud â'r Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru, y Comisiwn Etholiadol, a Stephen Brooks, Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.
5.1 Adroddiad drafft ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Dadreoleiddio.